Cerflun Bob Owen wedi'i gwblhau

Mae penddelw o Bob Owen Croesor, y casglwr llyfrau a'r hanesydd, wedi'i orffen ac yn barod i gael ei ddadorchuddio'n swyddogol.

Y cerflunydd John Meirion Morris wnaeth o - un sy' wedi gwneud delwau o nifer o Gymry amlwg ar hyd y blynyddoedd.

O Lanuwchllyn dyma adroddiad Dafydd Gwynn ar Newyddion nos Iau.