BBC Cymru Fyw

North a'i gyn-athrawes yn Perth

Mae Warren Gatland wedi enwi tîm hollol wahanol i'r un a gurodd y Barbariaid ddydd Sadwrn ar gyfer eu hail gêm ar y daith.

Fe fydd 'na bedwar Cymro yn dechrau yn erbyn Western Force, y ddau glo Alun Wyn Jones ac Ian Evans gyda Toby Faletau yn eilydd ymhlith y blaenwyr.

Y cefnwr Leigh Halfpenny a'r asgellwr George North sy'n chwifio'r faner yng nghanol yr olwyr.

Mae'r garfan bellach wedi cyrraedd Perth ac roedd un o gyn-athrawon North yng Ngholeg Llanymddyfri yno i'w groesawu.

Adroddiad Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles.