Economi: Yw'r gwaetha' drosodd?
Mae 'na bum mlynedd bellach ers yr argyfwng ariannol mawr, ac mae dau ddirwasgiad wedi bod ers hynny - felly sut mae pethau erbyn hyn?
Yw pethau'n dal i fod yn anodd, neu a yw'r gwaetha' drosodd?
Yw hwn yn gyfnod da i fusnesau geisio tyfu?
Gohebydd Busnes BBC Cymru, Ellis Roberts, sy'n edrych ar rai o'r cwestiynau hyn.