Pêl-droedwyr yn cofio am April
Ym Machynlleth nos Fawrth roedd 'na gêm bêl-droed arbennig rhwng clwb y dref a thîm yn cynnwys rhai o gyn sêr Cymru, dan arweiniad rheolwr y garfan genedlaethol, Chris Coleman.
Daeth y cyn chwaraewyr - yn eu plith Mickey Thomas, Andy Legg, John Hartson a Malcolm Allen -yno i helpu i godi arian tuag at gronfa apêl April Jones.
Mae bron i chwe wythnos wedi ers i Mark Bridger gael ei garcharu am oes am lofruddio'r ferch bump oed ym Machynlleth.
Ac fel y gwelodd Craig Duggan, mae cefnogaeth y gymuned i'w theulu yn gadarn o hyd.