Golwg ar economi Ynys Môn ar drothwy'r isetholiad
Mewn cyfnod o heulwen braf mae'r pleidiau gwleidyddol wedi bod wrthi yn brysur iawn yn ymgyrchu i geisio ennill sedd Ynys Môn yn y Cynulliad.
Mi fydd yr isetholiad yno yn cael ei chynnal ar Awst y cyntaf.
Un o brif bynciau trafod ar yr ynys ydi sefyllfa'r economi.
Mae yna sawl ergyd drom wedi bod yn ddiweddar, gyda nifer o swyddi yn cael eu colli.
Atomfa newydd yn Yr Wylfa ydi'r ateb yn ôl rhai - ond be arall sydd yna?
Aled Hughes fu'n trio cael yr atebion wrth i'r isetholiad yng ngwlad y medra agosáu.