Iechyd: 'Angen mwy o siaradwyr Cymraeg'
Ar ôl cael ei daro'n wael y llynedd, mae'r Aelod Cynulliad Keith Davies wedi dweud wrth BBC Cymru pa mor agos oedd o at farw.
Yn ei gyfweliad cynta' ers cael ceulad gwaed, neu glot ar yr ymenydd, mae'r aelod Llafur dros Lanelli yn galw am ddarpariaeth gwell i siaradwyr Cymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd.
Bydd hynny'n cael ei drafod ar Faes y Steddfod ddydd Llun mewn cyfarfod sy'n cael ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Rhodri Llywelyn fu'n holi Keith Davies.