Protestio yn erbyn codi 7,000 o dai

Mae cynnal Eisteddfod lwyddiannus yn golygu dim os ydi nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal yn gostwng - dyna oedd neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Sir Ddinbych ddydd Gwener. Roedd aelodau'r Gymdeithas yn protestio yn erbyn cynlluniau i adeiladu dros 7,000 o dai yn y sir. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy ddweud y bydd fersiwn newydd o'r canllaw cynllunio TAN 20 yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. O'r Maes adroddiad Elin Gwilym.