Cwpan y byd yng Nghymru
Am y tro cyntaf erioed mae rowndiau terfynol un o gystadlaethau UEFA yn cael eu cynnal yng Nghymru. Mae wyth o dimau wedi cyrraedd y de orllewin ac roedd y gic gyntaf ym mhencampwriaeth i ferched dan un deg naw brynhawn Llun yn Llanelli. Colli wnaeth Cymru yn eu gêm gyntaf ond mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn dweud fod y digwyddiad yn dipyn o anrhydedd, er bod ambell un yn synnu gan arwyddion uniaith UEFA. Adroddiad Iolo James