Cliff Morgan: John Ifans yn hel atgofion
Mae sêr y byd chwaraeon wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cliff Morgan, sydd wedi marw yn 83 yn dilyn salwch. Yn wreiddiol o bentre' Trebanog ger Porth yn y Rhondda fe enillodd 29 o gapiau dros Gymru fel maswr yn ystod y 50au. Bu hefyd yn gapten ar y Llewod cyn dechrau ar yrfa ddisglair fel darlledwr gan ddod yn bennaeth ar adran ddarlledu allanol y BBC. Fe fydd yn cael ei gofio hefyd fel y sylwebydd a ddisgrifiodd un o geisiau enwoca'r gamp pan sgoriodd Gareth Edwards gais dros y Barbariaid yn erbyn y Crysau Duon yn 1973. John Ifans sy'n edrych yn ôl ar ei fywyd.