Galw am arian wrth ddathlu'r deugain
Wrth ddathlu deugain mlynedd o achub dringwyr a cherddwyr o'u cwt bach yn Eryri'r penwythnos hwn, ma' Tîm Achub Mynydd Llanberis yn galw am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn i'r gwaith da barhau. Gwirfoddolwyr sy'n cynnal y gwasanaeth ar hyn o bryd, gyda chymorth cyfraniadau gan y cyhoedd. Wrth i'r tim baratoi i symud i adeilad newydd, Aled ap Dafydd aeth i glywed yr alwad am gymorth.