Poeni am y lorïau mawr sy'n mynd trwy Landdewi Brefi
Mae rhywun yn siŵr o gael ei anafu'n ddifrifol yn hwyr neu'n hwyrach. Dyna rybudd rhai o drigolion Llanddewi Brefi yng Ngheredigion sy'n poeni am nifer y lorïau mawr sy'n mynd drwy'r pentre' bob dydd. Cario coed y maen nhw o Goedwig Tywi gerllaw. Yn ôl y Cyngor maen nhw'n ceisio datrys y broblem ond dydi hynny ddim yn hawdd. O Landdewi Brefi - dyma Catrin Heledd.