Blwyddyn tan Refferendwm yr Alban

Flwyddyn union cyn y Refferendwm ar ddyfodol yr Alban mae Prif Weinidog y wlad Alex Salmond wedi annog pleidleiswyr i gofleidio annibynniaeth â dwy law. Mewn dadl yn y senedd dywedodd mai trigolion y wlad ddylai wneud penderfyniadau ynglyn â'i dyfodol.

Ond mae gwrthwynebwyr yr SNP yn mynnu fod yr Alban yn gryfach fel rhan o'r Deyrnas Unedig a bod y wlad ddatganoledig yn cael y gorau o ddau fyd. Adroddiad Aled ap Dafydd.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd