M4: Beth yw maint y broblem?
Bron i ddeng mlynedd ers y cynlluniau gwreiddiol i leddfu ar brysurdeb yr M4 o amgylch Casnewydd, mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau ar adeiladu traffordd newydd i'r de o'r ddinas.
Er y gallai'r ffordd dair-lôn gostio un biliwn o bunnau, mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod datrys y problemau traffig yn allweddol i'r economi.
Ond pa mor wael yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?
Rhodri Llywelyn ymunodd â chriw o athrawon ar eu taith ddyddiol i'r ysgol, a dyma'i adroddiad ar Newyddion9 nos Lun.