Cofio Jâms Nicolas
Yn wyth deg a phedair oed, bu farw'r cyn Archdderwydd Jâms Nicolas, wedi salwch hir.
Fe enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwedd y chwedegau - ac roedd y Brifwyl yn agos i'w galon drwy gydol ei oes.
Bu'n gofiadur yr Orsedd am chwarter canrif - ond cafodd lwyddiant mawr hefyd ym myd addysg - yn Brifathro, ac yn Arolygydd ysgolion.
Ellis Roberts sy'n edrych yn ol ar ei fywyd.