BBC Cymru Fyw

Ffracio: Y dechnoleg ddiweddara'

Wedi i ddau gyngor yn y de benderfynu bwrw ymlaen gyda drilio rhagarweiniol mae rhai yn dweud all arwain at ffracio, mae Newyddion Naw wedi bod yn dilyn y dadleuon o blaid ac yn erbyn. Mae gwneuthurwyr technoleg newydd Gymreig yn honni y gallai eu cynnyrch arwain at ddiwydiant nwy sy'n llygru llai. Ond nid pawb sydd o blaid. Adroddiad Iolo ap Dafydd.