Ceisio arbed £20m yn Sir Penfro
Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro wedi dechrau trafod sut i arbed £20 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y cyngor yn ymgynghori ar ddyfodol cartref gofal yn Arberth, bydd hi'n costio mwy i barcio yn y sir ac fe fydd yna gynnydd sylweddol yn y gost o gynnal gwasanaeth yn amlosgfa'r cyngor sir.
Mae'r cyngor hefyd yn gobeithio trosglwyddo dauddeg wyth o doiledau cyhoeddus i ddarparwyr eraill.
Adroddiad Aled Scourfield.