Cig eidion yn ôl ar y fwydlen
Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd bydd modd i gig eidion o Gymru gael ei werthu yn America - ond mae'r gwaharddiad ar gig oen yn parhau.
Cafodd cig eidion o Brydain ei wahardd yn dilyn yr helynt BSE, ond fe allai ail agor y farchnad greu cyfleoedd i ffermwyr gwerth miliynnau o bunnau.
Mae swyddogion Hybu Cig Cymru yn bwriadu teithio i Washington i drio ail agor y farchnad ar gyfer cig oen hefyd.
Adroddiad Ellis Roberts.