Ceisio denu mwy i Gapel Jewin
Mae ymgyrch wedi dechrau i sicrhau dyfodol capel Cymraeg hynaf Llundain.
Cafodd Capel Jewin yn ardal Smithfield o'r ddinas ei sefydlu yn y 18fed ganrif, ond wrth i nifer yr aelodau ostwng dros y blynyddoedd mae 'na boeni am ddyfodol yr achos.
Roedd y darlledwr Huw Edwards yn cadeirio cyfarfod yno fore Sul i drafod sut i ddenu mwy o bobl i'r capel.
Adroddiad Alun Thomas.