Pryderon am afon yn cau parc chwarae
Mae ardal chwarae amlbwrpas yn Sir Gaerfyrddin - sydd wedi costio bron i £150,000 - wedi gorfod cau ddeufis yn unig ar ôl yr agoriad swyddogol.
Cafodd Parc Hendy ei gau oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.
Roedd y safle wedi cael ei agor gan y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Non Evans ym mis Tachwedd y llynedd.
Yn ôl gwirfoddolwyr, fydd y safle ddim ar gael yn ystod y dydd oherwydd pryder y gallai plant ddringo dros y ffens i fynd i gasglu peli o'r afon gerllaw.
O'r Hendy, adroddiad Aled Scourfield.