Dysgu o'r gorffennol?
Mae un o gyn brif weithredwyr yr Urdd yn pryderu bod penderfyniad Efa Gruffudd Jones, y brif weithredwraig bresenol, i dderbyn yr MBE yn ddiweddar yn mynd i achosi rhwyg o fewn y mudiad.
Fe ddigwyddodd hynny adeg arwisgo Tywysog Cymru yn 1969.
Yn ôl Cyril Hughes, oedd yn ddirprwy gyfarwyddwr y mudiad yn 1969, mae'n bwysig bod gwirfoddolwyr yr Urdd yn parhau i gefnogi'r mudiad.
Bu'n siarad gyda Gohebydd Newyddion Ar-lein, Anna Glyn, am ei bryderon.