Canmoliaeth cleifion canser
Mae profiad cleifion canser o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ardderchog neu'n dda iawn, yn ôl naw o bob 10 wnaeth ymateb i arolwg cenedlaethol.
Dyma'r arolwg cynta' yng Nghymru o brofiadau cleifion canser.
Ond roedd y canlyniadau yn amrywio o un ysbyty i'r llall, gydag Ysbyty Singleton yn Abertawe yn derbyn sgôr oedd yn llawer is na'r cyfartaledd.
Hefyd, yn ôl yr arolwg, roedd profiad cleifion â mathau mwy prin o ganser "yn llai cadarnhaol".
Adroddiad Steffan Messenger.