Pryder am gem yfed ar y we
Mae mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhybuddio pobl i beidio cymryd rhan mewn gem yfed sy'n lledu ar wefanau cymdeithasol.
Pwrpas y gem 'neknomination' ydi ffilmio eich hun yn yfed diod meddwol a herio rhywun arall i fynd gam ymhellach.
Bu farw bachgen pedwar ar bymtheg oed ar ôl cymryd rhan yn y gem yng ngogledd Iwerddon dros y penwythnos. Adroddiad Iolo James.