Tywydd yn achosi problemau
Mae'r tywydd garw wedi bod yn achosi problemau ar hyd y wlad.
Yn ôl cwmni Western Power bu miloedd o'u cwsmeriaid yng Nghymru heb drydan - 600 o'r rheiny yn ardal Abertawe.
Ac amser cinio dydd Sadwrn roedd hyd at 15,000 heb drydan yn y canolbarth.
Roedd na broblemau hefyd yn ne orllewin Lloegr, er nad oedd y tywydd mor arw a'r disgwyl.
Adroddiad Luned Gwyn.