Canolfan newydd i Gorwen?

Fe all Canolfan Gelfyddydol newydd gael ei chodi yng Nghorwen ar ôl i Gyngor Sir Ddinbych gael grant o dros £20,000.

Ond, mi fyddai'n rhaid dymchwel yr hen bafiliwn, a tydi hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd gan fod ymgyrchwyr lleol wedi llwyddo i atal y gwaith drwy waharddebau llys.

Mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd y rhai sy'n gwrthwynebu rwan yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch.

Adroddiad Elen Wyn.