Corff amgylcheddol o dan y lach
Flwyddyn ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r naturiaethwr Iolo Williams wedi beirniadu'r corff amgylchedd am fethu a chyflawni.
Yn ôl y darlledwr, does dim pwyslais ar gadwraeth yng ngwaith y corff, a dywedodd ei fod "am y tro cyntaf yn poeni am gefn gwlad Cymru".
Gwrthod y sylwadau wnaeth prif weithredwr CNC, Emyr Roberts.
Bu'r Gweinidog Alun Davis a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Emyr Roberts, yn siarad â Dylan Jones ar ei raglen fore Mawrth, yn ogystal â Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd.