Pryder am 400 o swyddi purfa Murco
Mae 'na bryder ynghylch swyddi 400 o bobl gan fod cwmni Murco wedi dechrau ymgynghori ynglŷn â dyfodol eu purfa olew yn Aberdaugleddau.
Ers bron i bedair blynedd mae Murco wedi bod yn chwilio am brynwr i'r safle.
Ond maen nhw wedi methu a sicrhau hynny hyd yn hyn, ac maen nhw'n dal i chwilio.
Adroddiad Ellis Roberts.