BBC Cymru Fyw

Arddangosfa opera

Dros y penwythnos, cafodd arddangosfa 'Dim ond yn Wrecsam' ei hagor yn oriel y dref gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae'r arddangosfa yn rhoi blas ar brosiectau cymunedol sydd wedi'u cynnal yn yr ardal dros y tair blynedd ddiwethaf.

Fe aeth gohebydd Radio Cymru Geraint Thomas i'r oriel i gael gair efo rhai sydd wedi bod yn ymwneud â'r gwaith ac fe gafodd ei dywys o amgylch yr arddangosfa gan Ruth Evans, Cynhyrchydd Ieuenctid a Chymuned y cwmni.