Dylan Thomas ac Efrog Newydd

Mae llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal eleni i nodi canmlwyddiant geni'r bardd o Abertawe, Dylan Thomas.

Mae o hefyd yn cael ei gysylltu yn agos a dinas Efrog Newydd, lle cafodd ei ddrama enwog O Dan y Wenallt ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1953. Ac yno, rhai misoedd wedi hynny y bu farw yn 39 oed.

Tomos Morgan aeth draw i Efrog Newydd ar ran Newyddion 9 i glywed am ddylanwad Dylan Thomas ar y ddinas.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd