Cyfarfod Bronglais
Bu dau gyfarfod cyhoeddus ym Machynlleth ddydd Mercher er mwyn i bobl ddod at ei gilydd i drafod y math o wasanaeth iechyd y maen nhw am ei weld yn yr ardal yn y dyfodol.
Cafodd y cyfarfodydd, un yn y prynhawn a'r llall gyda'r hwyr, eu trefnu er mwyn cyfrannu at astudiaeth i anghenion iechyd y canolbarth.
Yr Athro Marcus Longley o Brifysgol De Cymru sy'n cynnal yr astudiaeth ar ran y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, ac mae disgwyl iddo gyflwyno adroddiad ym mis Medi.
Dim ond yn y canolbarth y mae astudiaeth fel hon yn cael ei chynnal.
Adroddiad Craig Duggan.