Dysgwr y Flwyddyn: 'Angen meithrin siaradwyr'

Joella Price, o Bort Talbot yn wreiddiol, ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2014.

Mae hi'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, ac yn gweithio fel nyrs gofal dwys yn yr Ysbyty Athrofaol yn y brifddinas.

Yn y seremoni ym Mharc y Scarlets nos Fercher, fe ddywedodd y beirniad fod angen datblygu cynllun rhwng yr Eisteddfod a'r dysgwyr er mwyn parhau i'w meithrin nhw fel siaradwyr Cymraeg.

Mwy gan Gwenllian Glyn.

Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.