BBC Cymru Fyw

Staff Llyfrgell Genedlaethol yn streicio dros gyflogau

Roedd y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth ar gau i'r cyhoedd ddydd Mercher wrth i aelodau tri undeb streicio mewn ffrae ynglŷn â chyflogau.

Yn ôl yr undebau, dyw'r aelodau heb gael codiad cyflog mewn pum mlynedd a dydi rhai ddim yn derbyn y cyflog byw o £7.65 yr awr.

Mae'r llyfrgell yn dweud fod staff wedi cael cynnig taliadau ychwanegol gwerth 3%. O Aberystwyth, adroddiad Craig Duggan.