BBC Cymru Fyw

Dibynnu gormod ar ddewiniaeth Bale?

Roedd hi'n agos, roedd hi'n galed. Ond mi sicrhaodd tîm pêl-droed Cymru ddechrau llwyddiannus yn eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc. Mae rhai yn dweud mai'r cae artiffisial yn Andorra wnath ffrwyno'r Cymru. Ond yn ôl eraill, mae rhaid i bethau wella. O Andorra, Iwan Griffiths.