Dwyn gan ddyn oedd yn yr ysbyty
Mae dyn o Aberystwyth wedi dweud wrth Newyddion Naw ei fod e'n lwcus i fod yn fyw ar ol cael ei anafu'n ddifrifol mewn coedwig ger y dre ddeufis yn ôl.
Ond ddyddiau yn unig ar ôl i Dafydd Williams fynd adre o'r ysbyty - ac yntau'n gaeth i'w wely - fe wnaeth lladron ddwyn gwerth miloedd o bunnau o'i offer.
Nawr mae'n dweud nad ydy o am ddychwelyd i'w waith o dorri coed.
Dyma adroddiad Sara Gibson.