Pryder am lwyddiant Prifysgol Aberystwyth
Ar ôl blynyddoedd o weld Prifysgol Aberystwyth yn cwympo yn y tablau cynghrair, mae Aelod Cynulliad amlwg sy'n byw yn y dref wedi cwestiynu gweledigaeth y coleg ger y lli'.
Ers 2011 mae'r brifysgol wedi llithro degau o safleoedd mewn gwahanol gynghreiriau.
Ond mae 'na darged uchelgeisiol wedi ei osod i godi Prifysgol Aberystwyth yn ôl i blith y goreuon.
Adroddiad Craig Duggan.