Cynnau tân mewn clwb nos prysur
Mae dyn wedi cyfaddef ceisio cynnau tân mewn clwb nos yn Abertawe pan oedd 200 o bobl yno.
Fe gafodd Craig Cullen, 29 oed, ei ddal ar CCTV yn taflu petrol ar ddrws cefn clwb nos Oxygen yng nghanol y ddinas yn oriau mân 20 Ebrill.
Fe gyfaddefodd Cullen gynnau tân gan fwriadu peryglu bywyd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.