BBC Cymru Fyw

Catrawd y Cymry yn hyfforddi yn Kenya

Am y tro cyntaf erioed mae rhai o filwyr Byddin Wrth Gefn y Cymry Brenhinol wedi bod yn hyfforddi ar y cyd gyda milwyr y Gwarchodlu Cymreig, a hynny yn Kenya.

Maen nhw yno oherwydd cynlluniau i drawsnewid Byddin Prydain erbyn 2020 pan fydd disgwyl i filwyr rhan amser gymryd mwy o gyfrifoldeb. Ond erbyn 2020 mi fydd maint y fyddin hynny wedi gostwng i 82,000.

Elen Wyn sy'n edrych ar ddyfodol y milwyr yn sgil toriadau.