Ysgol Dyffryn Conwy: Marchogaeth i lwyddiant
Bydd Ysgol Dyffryn Conwy yn mynd i Gystadleuaeth Dressage Ysgolion Prydain y penwythnos yma yn Addington.
Dyma'r ysgol Gymraeg gyntaf erioed i gyrraedd rowndiau terfynol y gamp.
Bydd y tîm o bedwar yn cystadlu yn erbyn ysgolion bonedd Lloegr, sydd â marchogaeth yn rhan o'u cwricwlwm.
Adroddiad Dafydd Gwynn.