BBC Cymru Fyw

Ble nesaf i'r reslwr Mason Ryan?

Ym Mhorthmadog nos Sadwrn mae un o reslwyr mawr y byd yn dychwelyd i'r sgwâr yn ei dref enedigol ar ôl cyfnod yn ymladd yn broffesiynol gyda chwmni WWE yn America.

Mason Ryan oedd enw llwyfan Barry Griffiths, wrth berfformio o flaen miloedd cyn i'w gytundeb ddod i ben yn gynharach eleni.

Beth fydd nesaf iddo? Elen Wyn aeth i'w holi.