Rhybudd y bydd llai o lyfrau Cymraeg oherwydd toriadau
Mae yna "berygl" y bydd llai o lyfrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn ystod y blynyddoedd nesa' yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ac mi allai gwerthiant ddioddef hefyd.
Roedd Elwyn Jones yn siarad â Newyddion Naw, sydd wedi bod yn ymchwilio i effaith toriadau o £400,000 dros ddwy flynedd yng nghyllideb y Cyngor, gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud: "Oherwydd toriadau yn y gyllideb gan Lywodraeth Prydain, rydym ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau ariannu anodd.
"Er gwaethaf y sialensiau ariannol mae Cyngor Llyfrau Cymru nawr yn ei wynebu, rydym ni'n hyderus y bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn parhau i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi yn y ddwy iaith."
Adroddiad Rhodri Llywelyn.
- Cyhoeddwyd
- 11 Tachwedd 2014
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy