Cofio'r cerddor Alun 'Sbardun' Huws
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cerddor Alun Sbardun Huws, fu farw yn 65 oed.
Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y Tebot Piws ac fe chwaraeodd hefyd gyda'r bandiau Ac Eraill a Mynediad am Ddim, cyn cyfansoddi i rai o enwau mwyaf y byd cerddorol.
Aled Huw sydd yn edrych yn ôl dros ei fywyd.