Uchafbwyntiau Clwb Rygbi 2014: Y ceisiau a'r chwerthin
Ceisiau Rhys Webb, yr 'Hoff' (David Hasselhoff) yn cefnogi Cymru a'r fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig yna yn erbyn un o fawrion hemisffer y De. Roedd 2014 yn flwyddyn llawn uchafbwyntiau ar y Clwb Rygbi.
Er bod y tymor hyn wedi bod yn un cyffrous mae'r flwyddyn newydd yn argoeli i fod hyd yn oed yn well wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan Rygbi'r Byd, ac mi fydd y chwaraewyr yng Nghymru yn awyddus i wneud eu marc ac i fod yn rhan o dîm Warren Gatland.
Cyn hynny wrth gwrs mae Pencampwriaeth y 6 Gwlad, ac yn ôl yr arfer bydd y Clwb Rygbi yn dangos pob un o gemau Cymru, gan ddechrau yn erbyn yr hen elyn ar nos Wener, 6 Chwefror.
Ond y penwythnos yma gêm ddarbi Gymreig rhwng y Gweilch a'r Dreigiau fydd yn mynd â'r sylw gyda'r ddau dîm yn gobeithio am fuddugoliaeth, wedi colli yn erbyn eu cymdogion yn eu gêm diwethaf. Ymunwch â chriw y Clwb Rygbi am 15:45 ddydd Sul ar S4C.