Dihangfa ffodus i dîm achub mynydd wedi damwain
Cafodd pedwar aelod o dîm achub mynydd ddihangfa ffodus ar ôl i'w cerbyd gyrriant pedwar olwyn droi ar ei ochr ar rew nos Sadwrn.
Roedd aelodau Tîm Achub Mynydd Central Beacons yn y Bannau Brycheiniog ar eu ffordd i achub cerddwr 25 oed ar Benyfan.
Rhwng Pontsticill a Phentref Aber fe gafodd y cerbyd ei yrru dros rew ar y ffordd, cyn troi ar ei ochr.
Chafodd neb ei anafu ac aeth aelodau'r tîm yn eu blaenau i achub y gŵr oedd mewn trafferth.