Dim maes carafanau i'r Urdd eleni
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi na fydd maes carafanau ar gael yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch eleni. Dywed y mudiad nad oes yna ddigon o dir addas i gynnal maes carafanau ger y prif faes.
Daw'r newyddion fel newyddion siomedig i garafanwyr sydd wedi mwynhau ymweld â maes carafannau'r eisteddfod dros y blynyddoedd.
Dyma adroddiad Owain Evans ar Newyddion 9.