Graham Daniels: 'Y gêm fwyaf yn hanes y clwb'
"Gall unrhyw beth ddigwydd."
Geiriau cyfarwyddwr clwb pêl-droed Caergrawnt, y Cymro Graham Daniels, cyn i'r tîm herio'r cewri Manchester United yn Old Trafford nos Fawrth.
Bydd y ddau dîm yn ail-chwarae wedi gêm ddi-sgor yng Nghwpan FA Lloegr fis diwethaf, ac mae Mr Daniels, sy'n wreiddiol o Lanelli, yn dweud mai dyma fydd y gêm fwyaf erioed yn hanes y clwb.
Iwan Griffiths aeth i'w holi.