Achub criw o long mewn tywydd garw
Mae lluniau dramatig wedi eu rhyddhau o griw llong bysgota yn cael eu hachub o'r môr ger Ynys Enlli mewn tywydd garw nos Iau.
Roedd rhaid galw hofrennydd yr Awyrlu a bad achub i achub y dynion oddi ar y Cesca, oedd yn hwylio o Aberdaugleddau i Gonwy.
Cafodd y dynion eu cludo i'r ysbyty cyn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach nos Iau.