BBC Cymru Fyw

Cofio Dr Meredydd Evans

Yn 95 oed, bu farw Dr Meredydd Evans.

Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, cynhyrchydd teledu, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith.

Roedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru am ddegawd yn ystod yr 1960au ac 1970au.