BBC Cymru Fyw

Y 6 Gwlad: Dydd y Farn

Wedi buddugoliaeth arwrol y Cymry yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad y penwythnos diwethaf, Dot Davies aeth i westy carfan Cymru i weld sut mae hwyliau'r tîm cyn y gêm olaf yn erbyn yr Eidal.

Ydy'r bechgyn yn obeithiol o ennill y bencampwriaeth?

Wedi colli'r gêm gyntaf yn erbyn Lloegr, mae Cymru wedi ennill y tair gêm ddiwethaf gan rwystro gobeithion Iwerddon o ennill y gamp lawn yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos diwethaf.

Er mwyn cael unrhyw obaith o ennill y bencampwriaeth mae'n rhaid i Gymru guro'r Eidalwyr yn Rhufain.

Ymunwch â thîm Clwb Rygbi yn fyw o Rufain am 1145 dydd Sadwrn lle bydd Gareth Edwards, Gwyn Jones a Dafydd Jones yn ymuno â Gareth Roberts gyda Deiniol Jones yn dadansoddi'r gêm.