Osian Roberts: Nerth y tîm ydi'r tîm, dim un unigolyn
"Nerth y tîm a seren y tîm, ydi'r tîm, dim un unigolyn," yn ôl aelod o dîm hyfforddi Cymru, Osian Roberts.
Yn siarad ar ôl y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Israel, dywedodd bod y gêm yn un o'r canlyniadau gorau dan arweinyddiaeth Chris Coleman.
Dywedodd bod y tîm nawr yn edrych ymlaen at gêm anodd yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin.