Beicio i gofio brodyr arloesol
Fe gafodd taith feicio hanesyddol ei hail-greu yn Nyffryn Aman ddydd Llun gydag un o fawrion rygbi Cymru yn rhan flaenllaw ohoni.
Roedd y daith yn cofio hanes dau frawd o'r dyffryn aeth ati i adeiladu'r beic cynta' yng Nghymru 130 o flynyddoedd yn ôl.
Heb deledu i'w marchnata, mi benderfynodd y ddau mai'r ffordd orau o dynnu sylw at y peirannau newydd oedd eu reidio'r holl ffordd i Abertawe ac yn ôl, taith gafodd ei hail-greu ar Llun y Pasg er lles achosion da.
Dyma adroddiad Dafydd Morgan ar Newyddion 9.