Pryder undeb am hyfforddiant athrawon cyflenwi
Mae un o undebau dysgu mwyaf Cymru wedi codi pryderon y gallai diffyg hyfforddiant sydd ar gael i athrawon cyflenwi arwain at ddiffyg cysondeb o ran safonau dysgu.
Mae NUT Cymru yn dweud nad oes digon o ddatblygiad proffesiynol ar gael i athrawon cyflenwi.
Mae tua 10% o wersi ysgol yng Nghymru yng ngofal y math hyn o athrawon.
Dyma adroddiad gohebydd addysg BBC Cymru, Arwyn Jones, ar Newyddion 9.